Beth Rydym Ei Wneud
Mae Dyslecsia Cymru yn cynnig cyngor a chefnogaeth i unigolion preifat, sefydliadau’r trydydd sector, cyrff cyhoeddus a busnesau preifat. Mae’n gwasanaethau yn cynnwys:
Llinell Gymorth
Dyma’r unig linell gymorth ddwyieithog yng Nghymru ar gyfer unigolion sydd yn cael eu heffeithio gan ddyslecsia.
Sgrinio dyslecsia a thiwtora
Rydym yn cynnal profion sgrinio dyslecsia ar gyfer pob oed, gan gynnwys plant oed cynradd ac uwchradd yn ogystal ag oedolion. Gellir trefnu tiwtora hefyd. Rydyn ni’n defnyddio sgrinwyr a thiwtoriaid cymwysedig sydd yn aelodau o’r Gymdeithas Ddyslecsia Prydeinig.
Asesu yn y gweithle
Rydym yn asesu gweithwyr yn y gweithle ac yn darparu gwybodaeth i gyflogwyr ynglŷn â ffyrdd o gefnogi gweithwyr â dyslecsia. Mae’r cyngor wedi ei deilwra i strategaethau sydd eisoes wedi eu sefydlu er mwyn goresgyn dyslecsia yn unol â swyddogaeth benodol yr unigolyn.
Cyrsiau a digwyddiadau
Mae gennym raglen o gyrsiau wedi eu hachredu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer myfyrwyr, athrawon a chyflogwyr. Rydym hefyd yn trefnu cynadleddau a gweithdai i godi ymwybyddiaeth o ddyslecsia.