Datganiad Polisi Iaith
Mae Dyslecsia Cymru/Wales Dyslexia yn ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i unigolion dyslecsig yng Nghymru drwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg.
Gan fod Dyslecsia Cymru/Wales yn sefydliad gwirfoddol nid yw wedi gorfod cyflwyno Cynllun Iaith Gymraeg ffurfiol i gael cymeradwyaeth gyfreithiol. Fodd bynnag, yr ydym yn ymrwymedig i ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg i bob unigolyn yng Nghymru ac wedi datblygu Ddatganiad o Bolisi Iaith er mwyn adlewyrchu’r ymrwymiad hwn.
Gohebiaeth ysgrifenedig
Mae Dyslecsia Cymru/Wales Dyslexia yn croesawu gohebiaeth (gan gynnwys negeseuon e-bost) yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Pan fo’n bosibl bydd Dyslecsia Cymru/Wales Dyslexia yn ateb yn iaith yr ohebiaeth.
Cyswllt ar y ffôn
Fel arfer atebir y ffôn mewn modd sy’n dderbyniol i siaradwyr Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd. Er enghraifft, “Bore da – Good Morning – Dyslecsia Cymru”. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael i barhau’r sgwrs gwahoddir y sawl sy’n galw i:
- gyflwyno’r ymholiad ar ffurf ysgrifenedig yn y Gymraeg er mwyn cael ymateb yn y Gymraeg;
- egluro’r ymholiad yn llawn yn Saesneg a chael ateb ysgrifenedig yn y Gymraeg;
neu, - barhau’r alwad yn Saesneg.
Deunydd Gwybodaeth a Chyhoeddusrwydd
Mae Dyslecsia Cymru/Wales Dyslexia yn ymrwymo i ddarparu deunyddiau gwybodaeth a chyhoeddusrwydd yn ddwyieithog.
Recriwtio
Mae Dyslecsia Cymru/Wales Dyslexia yn gwneud ymdrech i recriwtio siaradwyr Cymraeg fel y bo’n briodol.