Polisi Hygyrchedd
Iaith Syml
Rydym yn defnyddio iaith syml sy’n hawdd i’w deall ac yn osgoi iaith dechnegol, talfyriadau ac acronymau.
Cydymffurffio â Safonau
- Mae dyluniad pob tudalen ar y safle hon yn cydymffurfio â chanllawiau’r W3C – Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (blaenoriaethau 1, 2 and 3). Byddwn yn sicrhau ein bod ni’n cydymffurffio â’r canllawiau hyn yn ogystal â chanllawiau hygyrchedd eraill.
- Cafodd pob tudalen ar y safle hon ei dylunio er mwyn defnyddio XHTML dilys ac arddulliau a dalennau rhaeadru (CSS) dilys.
- Mae pob tudalen ar y safle hon yn defnyddio iaith farcio semantig strwythuredig. Rydym yn defnyddio tagiau H1 ar gyfer teitlau adrannau, tagiau H2 i deitlau’r prif dudalennau (a thagiau H3 a H4 ar gyfer is-deitlau). Mae rhai porwyr arbennig, er enghraifft darllenwyr sgrîn fel JAWS, yn caniatáu i’r defnyddiwr lywio trwy benawdau ac isbenawdau tudalennau os cawson nhw eu marcio felly. (Ar y dudalen hon, er enghraifft, gall rhywun sy’n defnyddio JAWS symud i’r adran nesaf o fewn y datganiad hygyrchedd trwy wasgu ar ALT+INSERT+3.)
Dolenni
- Mae gan lawer o’r dolenni briodoleddau sy’n disgrifio’r linc yn fwy manwl, oni bai bod testun y linc yn disgrifio’r targed yn llawn eisoes (fel, er enghraifft, teitl tudalen neu adran).
- Mae’r dolenni wedi cael eu hysgrifennu mewn ffordd sy’n synhwyrol hyd yn oed allan o’r cyd-destun.
Delweddau
Mae pob delwedd ar y safle hon yn cynnwys priodoleddau disgrifiadol ALT. Gall darllenwyr sgrîn ddarllen y testun hwn, a bydd porwyr testun yn unig yn ei ddangos fel bod defnyddwyr sy’n cael trafferth gweld delweddau yn gallu synhwyro o leiaf yr hyn sy’n cael ei gyfathrebu.
Dyluniad gweledol
- Mae’r safle hon yn defnyddio talenni sy’n rhaeadru i fformatio testun ac ar gyfer y gosodiad gweledol.
- Gallwch newid maint y testun ar y safle hon trwy ddefnyddio’r dewisiadau ‘maint testun’ mewn porwyr gweledol. Gallwch chi wneud yr holl gynnwys allweddol yn ogystal â chorff y testun a’r testun mewn dewislenni yn fwy neu’n llai.
- Os nad yw eich porwr neu’ch dyfais pori yn cefnogi dalenni arddull o gwbl, gallwch ddarllen cynnwys pob tudalen er gwaethaf hynny.
- Cewch grynodeb o’r cynnwys allweddol ym mhob tabl, fel bod darllenwyr sgrîn a phorwyr lleferydd yn gallu darllen disgrifiad o gynnwys y tablau pan ddôn nhw o hyd iddynt am y tro cyntaf.
Cefnogi llwyfannau eraill
Gall y safle hon synhwyro os yw iPhone neu ddyfais symudol arall yn cysylltu â hi. Caiff y cynnwys ei ddarparu mewn fformat sy’n addas i sgrîn fach.
Argraffu tudalennau
Er mwyn arbed papur ac inc bydd y safle hon yn argraffu tudalennau heb farrau llywio, baneri lliwgar nac elfennau eraill sy’n gwastraffu papur ac inc.
Adborth
Rydym yn awyddus i wneud ein gwefan yn haws i’w defnyddio. Rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda os cewch unrhyw broblemau gyda’r safle hon neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau am hygyrchedd ein gwefan.
Cyfeirnodau hygyrchedd
- Canllawiau hygyrchedd W3C sy’n egluro’r rheswm y tu ôl i bob canllaw.
- Technegau hygyrchedd W3C sy’n egluro’n fanwl sut i weithredu’r canllaw.
- Rhestr wirio hygyrchedd W3C, rhestr wirio ddefnyddiol iawn ynglŷn â hygyrchedd ar gyfer datblygwyr.