Helpwch Ni
Rydym angen eich cymorth…..
A ydych yn siopa gyda Amazon, M&S, Tresco neu John Lewis? ‘Rydym mewn partneriaeth gyda gwefan www.easyfundraising.org.uk felly medrwch helpu Dyslecsia Cymru bob tro y byddwch yn defnyddio unrhyw un o’r cwmnioedd enwog sydd ar wefan easyfundraising i brynu’ch nwyddau!
Sut mae hyn yn gweithio? Os bydd i chi brynu nwyddau oddiwrth gwmni a restrir ar wefan www.easyfundraising.org.uk , bydd canran o’r hyn y werir gennych yn dod yn ol i Dyslecsia Cymru heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Felly, os digwydd i chwi wario £50 gyda Amazon er engraifft, bydd £1.25 yn dod i gefnogi gwaith Dyslecsia Cymru.
A wnewch chi ein helpu drwy gofrestru ar:
http://www.easyfundraising.org.uk/causes/walesdyslexia
a gwneud y rhan fwya o’ch siopa ar-lein drwy wefan easyfundraising. Os digwydd i ni gyd ddefnyddio’r wefan hon, meddyliwch faint o arian a fydde’n dod i gynorthwyo gwaith Dyslecsia Cymru!
Ymunwch a’n Clwb 100 ni
Drwy ymuno a’n Clwb 100 medrwch helpu Dyslecsia Cymru tra hefyd yn meddu ar y cyfle’n fisol i ennill gwobor ariannol!
Bydd yna docynnau yn cael eu tynnu’n fisol yn erbyn 50% o’r incwm.
Dyma fel y rhennir y gwobrau’n fisol:
- ee. Os oes gennym 100 o aelodau, yr incwm am y mis fydd £200.
- bydd 50% yn dod i’r gronfa wobrwyo, sef £100.
- y Wobor 1af fydd £50.00
- 2il wobor fydd £30.00
- 3ydd wobor fydd £20.00
Medrwch brynnu mwy nag un rhgif am y mis. Byddai’n well gan Dyslecsia Cymru pe byddech yn talu am y flwyddyn ymlaen llaw (£24 y flwyddyn am bob rhif)
Diddordeb? Lawr-lwythwch a chwbwlhewch y ffurflen gofrestru yn yr atodiad ac mi wnawn ni eich hysbysu o’ch rhif(au).
ON: Mae’r ffurflen gais ar gael yn y Saesneg hefyd – dilynwch y ddolen ar ein gwefan. Diolch.